Cyfraddau marwolaeth: 'Camarweiniol'
- Cyhoeddwyd

Ers mis Mawrth 2013, mae'r GIG wedi bod yn cyhoeddi sgoriau Mynegai Marwolaethau wedi'i Addasu yn ôl Risg (RAMI) o holl ysbytai Cymru.
Mae adolygiad annibynnol o'r ffordd y mae'r GIG yng Nghymru yn mesur cyfraddau marwolaeth mewn ysbytai unigol wedi dod i'r casgliad y gall y system bresennol fod yn gamarweiniol ac nad yw'n rhoi darlun cywir o ansawdd a diogelwch.
Yn ôl yr Athro Stephen Palmer o Brifysgol Caerdydd, mae problemau gyda'r ffordd y mae'r data yn cael ei gasglu, ac mae anawsterau wrth wneud cymariaethau rhwng ysbytai yn golygu nad yw'r mesur presennol yn effeithiol i rybuddio am broblemau posibl.
Yn hytrach mae'r adolygiad yn dweud bod proses a arloeswyd yng Nghymru o adolygu holl gofnodion meddygol y cleifion sydd wedi marw mewn ysbyty yn darparu ffordd well o asesu diogelwch ac ansawdd y gofal.
Yn ei adolygiad, mae'r Athro Palmer yn galw ar y broses hon i gael ei defnyddio ledled Cymru.
Tryloywder
Ers mis Mawrth 2013, mae'r GIG wedi bod yn cyhoeddi sgoriau Mynegai Marwolaethau wedi'i Addasu yn ôl Risg (RAMI) o holl ysbytai Cymru.
Roedd cyhoeddi'r data i fod yn ffordd o gynyddu tryloywder, yn dilyn adroddiad ymchwiliad cyhoeddus yn dweud fod esgeulustod a cham-drin yn Ysbyty Stafford rhwng 2005 a 2008 wedi arwain at farwolaethau diangen.
Os yw sgôr RAMI ysbyty o dan 100, yna bernir bod cyfradd y marwolaethau yn "normal" gan fod nifer y marwolaethau a welwyd yn cyfateb i'r hyn y byddai disgwyl mewn ysbyty o'r maint a math.
Fel rhan o'i adolygiad gofynnwyd i'r Athro Palmer i edrych yn fanylach ar chwech ysbyty a sgoriodd yn uwch na 100 ar y mesur a elwir yn RAMI Cymru.
Mae'n dod i'r casgliad nad oes angen cymryd camau pellach mewn pump o'r chwech - Ysbyty Tywysog Charles, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, Ysbyty Singleton ac Ysbyty Maelor Wrecsam.
Fodd bynnag, yng nghyswllt Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, galwodd yr Athro Palmer am waith pellach i ddeall sut y gallai newidiadau wrth gofnodi marwolaethau rhai cleifion - oedd yn derbyn gofal diwedd oes - a materion eraill effeithio ar y sgôr RAMI o 116.
Yn Llywodraeth Cymru, mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn ymchwilio i'r rhesymau y tu ôl i'r sgôr RAMI uchel ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2014
