Delweddau o gam-drin plant: Arestio 59 yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae 59 o bobl wedi eu harestio yng Nghymru ar amheuaeth o droseddau rhyw yn erbyn plant.
Mae'n rhan o ymgyrch chwe mis o hyd gan yr Asiantaeth Droseddau Genedlaethol (NCA), sydd wedi arwain at arestio 660 ledled y DU.
Roedd yr ymgyrch yn targedu pobl oedd yn chwilio am ddelweddau o gam-drin plant ar y we.
Dim ond 39 o'r 660 oedd wedi eu cofrestru yn droseddwyr rhyw.
Roedd gan nifer o'r rhai a arestiwyd fynediad heb oruchwyliaeth i blant gan gynnwys arweinydd sgowtiaid a gofalwr maeth.
Mae eraill a arestiwyd yn cynnwys cyn swyddog yr heddlu a rheolwr gwasanaethau cymdeithasol.
Hyd yn hyn mae 12 o bobl wedi cael eu cyhuddo o droseddau o feddiant a dosbarthu delweddau anweddus o blant.
Yn ôl Heddlu'r De, hyd yn hyn mae 42 o blant wedi cael eu gwarchod ac 16 wedi diogelu o ganlyniad i'r ymgyrch, ac mae dau o'r bobl gafodd eu harestio wedi lladd eu hunain.