Ched Evans: cais i apelio
- Cyhoeddwyd

Cafodd Ched Evans ei garcharu am bum mlynedd am dreisio
Mae'r pêl-droediwr Ched Evans sydd wedi ei gael yn euog o dreisio dynes 19 oed wedi lansio apêl i geisio cael gwrandawiad llys yn erbyn ei ddyfarniad.
Yn Ebrill 2012 fe wnaeth rheithgor benderfynu fod Evans - sydd wedi chwarae i Gymru ac sydd ar lyfrau Sheffield United - wedi treisio'r ddynes mewn gwesty yn Rhuddlan, Sir Ddinbych.
Yn Nhachwewdd wnaeth barnwyr wrthod hawl iddo apelio yn erbyn y dyfarniad. Hefyd cafodd cais i leihau ei ddedfryd ei wrthod.
Mae Evans nawr yn gofyn i'r Comisiwn Arolygu Achosion Troseddol, dolen allanol edrych unwaith eto ar ei achos.
Cafodd Evans ei garcharu am bum mlynedd.
Roedd y peldroediwr wedi cyfaddef iddo gael rhyw gyda'r ddynes. Dywedodd y ddynes wrth y llys nad oedd ganddi hi unrhyw gof o'r digwyddiad.
Dadl yr erlyniad oedd bod y ddynes yn rhy feddw i roi cydsyniad.
Dywed cynrychiolwyr cyfreithiol Evans eu bod wedi rhoi cais i'r Comisiwn Arolygu Achosion Troseddol - gan ofyn a yw'r dyfarniad yn un diogel.
Maen nhw am i'r achos gael ei anfon yn ôl i'r Llys Apêl gan ddweud fod yna bosibilrwydd real y gallai'r dyfarniad gael ei ddiddymu.
Cafodd y Comisiwn Arolygu Achosion Troseddol ei sefydlu i geisio sicrhau fod unrhyw achosion posib o anghyfiawnder yn cael eu hanfon i'r llys apêl.
Mae disgwyl i Evans gael ei ryddhau o'r carchar ym mis Hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2012

- Cyhoeddwyd20 Awst 2012

- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2012

- Cyhoeddwyd30 Mai 2012

- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2012

- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2012

- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2012
