Lluniau anweddus: Dim ple
- Cyhoeddwyd
Wedi iddo ymddangos gerbron ynadon yn Nolgellau ddydd Llun, mae dyn o'r dref yn wynebu ymddangosiad yn Llys y Goron, wedi ei gyhuddo o 10 cyhuddiad o dynnu neu greu cyfanswm o 357 o luniau anweddus o blant.
Mae Ian Samuel Gwilliam hefyd yn wynebu dau gyhuddiad o fod â phornograffiaeth eithafol yn ei feddiant.
Wnaeth y dyn 26 oed ddim cyflwyno ple, ac fe fydd y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Caernarfon ymhen wythnos.
Fe gafodd Gwilliam ei ryddhau ar fechnïaeth ar yr amod na fyddai'n cysylltu ag unrhyw un dan 18 oed heb oruchwyliaeth.
Gofynnodd erlynydd y Goron, Tracey Willingham, i ynadon newid rhai o'r 12 cyhuddiad.
Honnir i'r troseddau gael eu cyflawni yn Nolgellau rhwng mis Awst 2010 a Mai 2013.