Dysgwr y Flwyddyn 2014: Joella Price
Un o'r pedwar fydd yn cystadlu yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014 yw Joella Price.
Mae'r nyrs yn uned gofal dwys Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn byw yn y brifddinas erbyn hyn ond mae hi'n wreiddiol o Bort Talbot.
Gwenllian Glyn fu'n ei holi.