Hylendid ffatri gig yn 'foddhaol'
- Cyhoeddwyd

Mae gan ffatri cywion ieir ar Ynys Môn safon hylendid "boddhaol" yn ôl canlyniadau ymchwiliad brys gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fe ddechreuodd yr ymchwiliad yn y ffatri yn Llangefni wedi honiadau ym mhapur newydd y Guardian.
Cwmni 2 Sisters sydd berchen ar y safle, yn ogystal â ffatri arall yn Scunthorpe oedd yn rhan o'r ymchwiliad brys.
Meddai'r Asiantaeth, fe wnaed archwiliad "manwl a thrylwyr" yn y ffatrioedd.
Fe ddywedodd cwmni 2 Sisters ei fod "yn fodlon" gyda'r canlyniadau.
'Dim risg'
Fe ddywedodd yr Asiantaeth:
"Mae canlyniadau'r archwiliadau manwl a thrylwyr hyn wedi dangos bod safonau yn Scunthorpe yn 'dda' a bod Llangefni yn 'foddhaol, ar y cyfan'.
"Fe fydd yr Asiantaeth yn cyhoeddi'r archwiliadau yn y man."
Yn ôl llefarydd ar ran Ysgrifennydd Iechyd llywodraeth San Steffan, Jeremy Hunt, does "dim risg i iechyd y cyhoedd" yn dilyn archwiliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fe wadodd 2 Sisters honiadau'r Guardian, gan ddweud eu bod nhw'n "anwiredd, yn gamarweiniol ac yn anghywir".
"'Dy ni'n croesawu'r archwiliadau ac yn falch bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi gweithio'n fanwl a thrylwyr.
"Rydym ni'n fodlon gyda'r canlyniadau," meddai prif weithredwr y cwmni, Ranjit Singh.
"Er hyn, allwn ni ddim gorffwys ar ein rhwyfau. 'Dy ni'n gweithredu mewn awyrgylch lle mae 'na wasted le i wella ac fe fyddwn ni'n cario 'mlaen i ddatblygu er mwyn sicrhau ein bod ni'n cynhyrchu deunydd o'r safon ucha' i'n cwsmeriaid.
Fe wadodd cwmni arall gafodd ei enwi yn erthygl y Guardian - Faccenda Foods - ei fod yn anwybyddu rheolau bio-ddiogelwch.
Fe lansiodd tri o'r archfarchnadoedd mawr - Tesco, Sainsbury's a Marks and Spencer - ymchwiliadau i'w cyflenwyr cyw iâr yn dilyn yr adroddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2014
