Owen Williams yn diolch am gefnogaeth
- Cyhoeddwyd

Owen a'i gi Riley
Mae Owen Williams, canolwr Gleision Caerdydd a Chymru, wedi diolch i bawb sydd wedi anfon negeseuon o gefnogaeth iddo.
Fe gafodd Williams, 22 ei anafu yng nghystadleuaeth y World Club 10s yn Singapore ym mis Mehefin.
Dioddefodd anaf difrifol i'w wddf a'i asgwrn cefn.
Mae wedi cyhoeddi llun ohono ef a'i gi Riley o'i wely yn yr ysbyty.
Dywedodd: "rhywbeth bach neis i godi'r galon. Ymweliad gan Riley. Unwaith eto, diolch am yr holl negeseuon o gefnogaeth # KeepingMeGoing."
Ym mis Gorffennaf, cafodd ei drosglwyddo i ysbyty arbenigol Rookwood yn Llandaf i barhau gyda'i driniaeth.
Mae'r chwaraewr ifanc wedi ennill pedwar cap i Gymru a sgoriodd ei gais rhyngwladol cyntaf yn y gêm yn erbyn Tonga fis Tachwedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2014

- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2014

- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2014

- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2014
