Achub tri o'r Fenai
- Cyhoeddwyd

Yn ôl gwylwyr y glannau Caergybi, bu'n rhaid achub tri o bobl o'r Fenai wedi i jet-sgi dorri lawr.
Nofiodd dyn i geisio helpu'r ddau ddyn oedd ar y jet-sgi, ond bu'n rhaid achub y tri.
Achubwyd dau o'r dynion gan hofrennydd yr Awyrlu o'r Fali ac achubwyd y trydydd dyn gan dîm bad achub Biwmares gyda chymorth tîm gwylwyr y glannau Bangor.
Cafodd y tri eu hachub am tua 20:30 neithiwr, ac aethpwyd a'r ddau yn yr hofrennydd i Ysbyty Gwynedd fel rhagofal, yn ôl llefarydd.