Cynllun cartrefi gwerth £5.5m i ardal SA1 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae 100 acer o dir yn cael ei ail-wampio yn rhan o gynllun SA1
Fe fydd datblygiad gwerth £5.5m o gartrefi newydd yn cael ei godi yn ardal SA1 yn Abertawe.
Yn ogystal â fflatiau, mae 'na 27 o dai yn rhan o'r cynllun fydd yn cael ei adeiladau yn ardal Doc Tywysog Cymru.
Mae cwmni Coastal Homes - grŵp nid-er-elw - yn gobeithio dechrau ar y gwaith yn 2016 wedi i'r broses gynllunio ddod i ben.
Eisoes, mae gan y grŵp bron i 150 o fflatiau yn SA1, ac mae Coastal Homes wedi prynu safle 1.5 acer gan lywodraeth Cymru.
"Fe fydd yn darparu cartrefi i'w rhentu a'u gwerthu y mae galw mawr amdanyn nhw, mewn ardal sy'n prysur ddod yn un o ardaloedd mwya' poblogaidd Abertawe," meddai cyfarwyddwr datblygu'r cwmni, Gareth Davies.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol