Tân: Pump o bobl wedi eu cludo i'r ysbyty
- Cyhoeddwyd

Mae diffoddwyr tân ar hyn o bryd yn diffodd tân mewn tŷ ar Ffordd Y Morfa, Abergele.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 11.02 ddydd Mercher, ac aeth criwiau o'r Rhyl, Bae Colwyn, Wrecsam a Phrestatyn, a'r platfform ysgol awyr o'r Rhyl, i gyd i Abergele er mwyn mynd i'r afael â'r tân.
Roedd y tân dan reolaeth erbyn 13.13.
Cafodd pobl oedd yn yr adeiladau bob ochr i'r tŷ eu symud.
Mae pump o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlans ar gyfer archwiliadau meddygol.
Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.