'Esgeulustod': Arestio dwy nyrs arall
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi arestio dwy nyrs wrth i'r ymchwiliad barhau i honiadau o esgeulustod mewn ysbyty ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r honiadau'n ymwneud â ffugio cofnodion yn Ysbyty Tywysoges Cymru.
Roedd y ddwy nyrs sydd wedi eu harestio, sy'n 40 a 29 oed ac yn byw yn ardal Pen-y-bont, eisoes wedi cael eu gwahardd o'u gwaith gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg fel rhan o'u hymchwiliad mewnol i'r honiadau.
Cafodd y ddwy eu rhyddhau ar fechnïaeth, a bydd rhaid iddyn nhw ddychwelyd i swyddfa'r heddlu yn y dyfodol.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn parhau i hysbysu'r teulu o bob datblygiad yn yr achos.
Mae'r arestiadau yn dod â chyfanswm y bobl sydd wedi'u harestio fel rhan o'r ymchwiliad i bump.
Wrth ymateb i'r datblygiadau dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies:
"Bydd y newyddion yma'n destun pryder i bawb, ond yn enwedig i gleifion a'u teuluoedd sydd wedi diodde' wrth law Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.
"Er na fyddai'n briodol i sôn am achosion unigol mae'n ymddangos bod mwy a mwy o dystiolaeth bod uwch reolwyr y Bwrdd Iechyd wedi tynnu'u llygaid oddi ar y bêl."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg:
"Ni allwn wneud sylw am ymchwiliad yr heddlu, sy'n parhau, ond rydym yn parhau i gynorthwyo'r heddlu gyda'u hymholiadau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2014

- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2014

- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2014
