Becws: 'Colli 390 o swyddi'
- Cyhoeddwyd

Mae adroddiadau y bydd 390 o bobl yn colli eu gwaith ym mecws Avana ger Casnewydd, erbyn diwedd mis Tachwedd.
Daw'r adroddiadau ychydig wythnosau wedi i'r grŵp 'Food Utopia' brynu'r safle oddi wrth y perchnogion blaenorol, 2Sisters Food Group.
Dywedodd John James o undeb y 'Bakers, Food and Allied Workers':
"Clywodd 390 o staff mewn cyfarfod am hanner dydd heddiw y byddan nhw'n colli eu gwaith erbyn mis Tachwedd."
Mae cynghorydd Tŷ Du, Chris Evans, wedi siarad â'r gweithwyr ac mae ar ddeall y bydd nifer sylweddol yn colli eu gwaith yn y ffatri.
Dywedodd: "Mae'n newyddion trychinebus. Yn syml, mae hwn yn weithlu ffyddlon sy'n haeddu gwell."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2014

- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2014

- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2014
