Dyn wedi ei daro gan gar ym Mhen-y-bont
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei gludo i'r ysbyty gan hofrennydd wedi i gar ei daro ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A4601 rhwng Ffordd Tondy a Stryd Mackworth am 9.14 fore Sadwrn.
Fe gafodd y ffordd ei chau er mwyn galluogi i'r ambiwlans awyr lanio, ac mae disgwyl iddi fod ynghau am beth amser.
Mae hyn yn golygu fod cryn oedi ynghanol y dref.