Toriadau yn gwneud 'ymateb yn anoddach'
- Cyhoeddwyd

Yr Athro Pennington wnaeth arwain ymchwiliad i'r ymlediad o E.coli yn y de yn 2005
Mi allai'r toriadau i gyllidebau cynghorau Cymru olygu na fyddan nhw mewn sefyllfa i allu ymateb yn effeithiol i ddigwyddiad tebyg i'r sgandal gig ceffyl, yn ôl arbenigwr.
Wrth i'r unig labordy cyhoeddus sy'n gallu dadansoddi samplau bwyd gau yr wythnos hon, mae'r Athro Hugh Pennington yn rhybuddio am y risg o ddibynnu ar labordai preifat mewn argyfwng.
Dywedodd yr Athro Pennington, sy'n arbenigwr ar facterioleg ym Mhrifysgol Aberdeen: "Heb y labordy yma mi allwch chi gael ei hun fewn i drwbl difrifol.
"Pan mae rhywbeth annisgwyl yn ymddangos ac yn achosi problem anferth, fel ddigwyddodd gyda chig ceffyl, mae'r cyhoedd eisiau ei weld yn cael ei ddatrys ac mae'n rhaid i chi ddarganfod os oes bygythiad i'r cyhoedd.
"Allwch chi ddim gwneud hynny drwy ddibynnu'n llwyr ar labordai allanol i wneud y profion.
"Rwy'n deall pam mae hyn yn digwydd - diffyg arian - ond ar y llaw arall mae'n rhaid i ddiddordeb y cyhoedd fod yn flaenoriaeth."
Mae Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau mai ystyriaethau ariannol oedd wrth wraidd eu penderfyniad i gau'r labordy.

'Angen dygnwch'
Roedd wyth awdurdod lleol arall ledled Cymru yn defnyddio'r labordy felly bydd raid i bob un ohonyn nhw nawr yrru gwaith i gwmnïau preifat.
Nid yw hon yn broblem sy'n unigryw i'r wlad hon - mae labordai wedi bod yn cau ledled Prydain.
Gan gynnwys yr un yng Nghaerdydd, mae chwech wedi cau ers 2008 gan ddod a'r nifer lawr o 21 i 15.
Yn gynharach yn y flwyddyn, yn ei adroddiad i'r sgandal gig ceffyl, dywedodd yr Athro Chris Elliot bod hyn yn destun pryder.
"Rwyf wedi ystyried y posibilrwydd o adael darpariaeth labordai ar gyfer profi dilysrwydd ar drugaredd grymoedd y farchnad," meddai.
"Ond mae risg real iawn y byddai hyn yn arwain at system fyddai ond yn cynnwys darpariaeth labordai preifat.
"Yn fy marn i ni fyddai hyn yn ganlyniad boddhaol.
"Cyfrifoldeb y llywodraeth yw darparu dygnwch yn wyneb argyfwng ac i sicrhau bod y cyfleusterau yno i sefydlu nod o ran safonau profi."
'Toriadau eithafol'
Mae Cyngor Caerdydd wedi gwneud toriadau o £48 miliwn y flwyddyn yma mewn ymateb i'r gostyngiad yn eu cyllideb blynyddol.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan nad oedd "cynllun busnes hyfyw ar gyfer y cyfleuster" a'u bod nhw felly wedi penderfynu tynnu'r cymhorthdal blynyddol o £200,000.
Ychwanegodd y byddai'r cyngor yn "gweithio gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) ar fesurau atal a gweithredoedd gorfodol er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd".
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn dweud bod hyn yn "enghraifft arall o sut mae gwasanaethau hanfodol cynghorau yn diflannu'n gyflym oherwydd y toriadau eithafol sy'n cael ei wneud i'r gyllideb llywodraeth leol yng Nghymru".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2013
