Gwrthwynebwyr nesa' Abertawe a Chaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mi fydd Abertawe yn croesawu Everton yn nhrydedd rownd Cwpan y Gynghrair.
Mae'r Elyrch wedi cael dechrau campus i'w tymor ac mae ganddynt record 100% hyd yma, ond bydd Everton yn siŵr o gynrychioli her sylweddol.
Gartref fydd Caerdydd hefyd wedi iddyn nhw gael eu tynnu yn erbyn Bournemouth, sy'n chwarae yn yr un gynghrair â nhw.
Bydd y ddwy gêm yn digwydd yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar Fedi'r 22ain.