Gohirio penderfyniad am dyrbin gwynt yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio'r prynhawn 'ma i ohirio trafodaeth ar gais cynllunio dadleuol i godi tyrbin gwynt 67 metr yn Llanaelhaearn ger Pwllheli.
Mae swyddogion wedi argymell gwrthod y cais yn eu hadroddiad, ond gofynnodd ymgeisydd y cais i'r mater gael ei ohirio er mwyn iddynt astudio cyfarwyddebau newydd a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan Lywodraeth Cymru.

Mae trigolion yn honni fod cais cynllunio'r tyrbin wedi hollti ardal Llanaelhaearn.
Mae'r ymgeisydd hefyd angen ystyried yr ymatebion a gyflwynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru i'r cais.
Maent hefyd yn awgrymu y byddai aelodau'r pwyllgor yn elwa o ymweliad safle.
Dywedodd swyddogion y cyngor y byddai gohiriad yn rhoi mwy o amser i asesu'r ymateb i'r ymgynghori ychwanegol a gynhaliwyd oherwydd pryderon dros yr ymgynghoriad gwreiddiol.
Mae preswylwyr sy'n gwrthwynebu'r cais i adeiladu'r tyrbin yn honni bod y cynllun wedi rhannu'r gymuned.
Mae'r rhai o gefnogwyr y cynllun yn dweud y byddai'r elw o'r tyrbin yn fudd i brosiectau cymunedol.
Does dim dyddiad wedi'i bennu ar gyfer trafod y cais ymhellach.