Gorymdaith wrth-Nato yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r protestwyr wedi bod yn llafarganu wrth orymdeithio
Mae tua 500 o ymgyrchwyr, sy'n protestio yn erbyn Nato, yn gorymdeithio drwy Gasnewydd.
Fe dreuliodd tua 100 y noson mewn gwersyll heddwch ym Mharc Tredegar neithiwr.
Bychan yw nifer y protestwyr gan fod disgwyl y byddai miloedd yn cyrraedd.
Mae'n nhw'n gorymdeithio o'r senotaff yng nghanol y ddinas tuag at gylchfan y Coldra ger gwesty'r Celtic Manor, lleoliad yr uwchgynhadledd.
Nos Iau bydd gorymdaith yng Nghaerdydd cyn i'r arweinwyr giniawa yn y castell.

"Heddwch!" yw cri'r protestwyr yng Nghasnewydd

Yr heddlu'n ymbaratoi ar gyfer y brotest

Yr orymdaith drwy Gasnewydd

Y protestwyr ar strydoedd Casnewydd
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2014

- Cyhoeddwyd4 Medi 2014
