Cynghorau yn defnyddio cytundebau dim oriau
- Cyhoeddwyd

Gallai'r cytundeb olygu cyfnod hir cyn clywed oddi wrth gyflogwr
Mae wyth cyngor yng Nghymru yn defnyddio cytundebau dim oriau, gan gynnwys rhai sy'n cael eu harwain gan Lafur a Phlaid Cymru er bod y ddwy blaid wedi codi pryderon am broblemau ynghlwm â chytundebau o'r fath.
Dywedodd un o'r undebau sy'n cynrychioli gweithwyr cynghorau fod y cytundebau'n achosi "ansicrwydd" i'r bobl sy'n eu harwyddo.
Fe wnaeth ymchwil BBC Cymru ddarganfod fod 4,000 o bobl yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol o dan gytundebau o'r fath a Phowys oedd yn eu defnyddio amlaf o bell ffordd.
Mae'r rhai o blaid y cytundebau wedi dweud eu bod yn aml yn gyfleus i staff sy'n parhau i gael tâl salwch a gwyliau.

Mae Cyngor Powys, sy'n cael ei redeg gan grŵp o gynghorwyr annibynnol, yn cyflogi 2,047 ar gytundebau dim oriau tra bod 4,714 o staff llawn amser neu gyfatebol.
O ran y cynghorau Llafur mae Pen-y-bont ar Ogwr â 418 ar y cytundebau dan sylw tra bod 5,164 o staff llawn amser. Y ffigyrau ar gyfer Abertawe yw 482 ar gytundeb dim oriau allan o 10,330.
Plaid Cymru sy'n arwain Cyngor Gwynedd lle mae 477 ar y cytundebau allan o 6,639 o staff llawn amser, a hefyd Cyngor Ceredigion lle mae 328 allan o 2,818.
Mae gan gynghorau Conwy (76), Sir y Fflint (25) a Sir Benfro (69) ychydig o staff ar y cytundebau.
Nid yw'r ffigyrau hyn yn cynnwys pobl sydd yn cael eu cyflogi gan fudiadau sy'n gweithio i gynghorau.

Fis Ebrill fe ddywedodd Arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband fod cytundebau dim oriau yn "anghydnaws gydag adeiladu gweithlu teyrngar, cynhyrchiol a sgilgar".
Mae Plaid Cymru wedi bod yn feirniadol iawn o'r cytundebau ac ym mis Mawrth fe gyhuddon nhw Lafur o "ragrith" am bleidleisio yn erbyn cynnig i wrthwynebu cytundeb dim oriau ym maes gofal tra'n dweud yn gyhoeddus eu bod nhw am eu dileu.
Dywedodd Dominic MacAskill o undeb Unsain y dylai Llafur a Phlaid Cymru "osod esiampl" a "gweithredu eu polisïau" o fewn cynghorau.
"Mae ansicrwydd cyffredinol oherwydd nad ydych yn gwybod o un dydd i'r llall faint o waith y'ch chi'n mynd i gael, faint o arian y'ch chi am ei gael ar ddiwedd y mis, sut y'ch chi am dalu am eich morgais," meddai.
"Mae yna effaith hefyd ar y cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd oherwydd bod rhaid i chi ymateb ar fyr rybudd ac mae pryder - os nad y'ch chi'n dweud 'Ie' i'r cynnig am waith na fyddwch chi'n cael cynnig yn y dyfodol.
"Yn ogystal dylid ystyried ansawdd gwasanaethau."
Ymateb y pleidiau
Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur: "Yn ogystal â sicrhau fod termau ac amodau staff sydd ar gytundebau dim oriau yn gliriach a'u bod yn rhydd i weithio i gyflogwyr eraill, mi fyddai Llafur yn rhoi'r hawl i staff fynnu cytundeb parhaol os ydyn nhw yn gweithio oriau cyson am amser penodol, gyda hawl awtomatig i gytundeb oriau sefydlog wedi hyn a hyn.
"Mi fyddan ni hefyd yn sicrhau nad yw staff ar gytundebau dim oriau yn gorfod bod ar gael y tu allan i oriau'r cytundeb, a bod ganddyn nhw hawl i iawndal os yw'r shifftiau'n cael eu canslo'r munud olaf."
Dywedodd llefarwraig ar ran Plaid Cymru: "Mae sicrhau amodau tecach i weithwyr Cymru yn gorfod dechrau drwy wneud yn siŵr fod gweithwyr yn cael tâl teg am ddiwrnod o waith.
"Dyna pam mae cynghorau Plaid Cymru yng Ngwynedd a Cheredigion wedi cynyddu tâl y rheini sy'n ennill leiaf, gan ostwng cyflogau ar y top.
"Mae Plaid Cymru hefyd yn gweithio gydag undebau llafur i roi terfyn ar ddefnydd cytundebau dim oriau. Yn y Cynulliad rydym wedi ymgyrchu i'w defnydd gael ei wahardd mewn sawl sefyllfa, ond mae'r Blaid Lafur yn pleidleisio yn ein herbyn bob tro."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2014

- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2014

- Cyhoeddwyd20 Awst 2013
