Uno cynghorau: Conwy'n 'barod i drafod'
- Cyhoeddwyd

Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn cael eu hannog i uno o'u gwirfodd
Mae Cyngor Conwy wedi pleidleisio i ddechrau trafod uno'n wirfoddol gyda Chyngor Sir Ddinbych.
Mewn cyfarfod arbennig, fe ddywedodd cynghorwyr mai "golau oren" yn y broses yw hwn, wedi i gynghorwyr yn Sir Ddinbych ddechrau'r drafodaeth wythnos yn ôl.
Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn cael eu hannog i uno o'u gwirfodd, wrth i lywodraeth Cymru geisio tocio'r nifer o 22 i 10 neu 12.
Fe ddywedodd y Gweinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews y byddai uno gwirfoddol yn rhoi "gwell sicrwydd".
Fis Ionawr eleni, fe wrthododd Conwy drafod uno, ac fe ddywedodd y dirprwy arweinydd Ronnie Hughes fod partneriaeth flaenorol gyda Sir Ddinbych wedi bod "yn drychinebus".
Daw'r newyddion wedi i Gomisiwn Williams argymell y dylid torri nifer y cynghorau.
Fe ddywedodd Mr Andrews - ddychwelodd i'r cabinet yr wythnos ddiwethaf - y gallai cynghorau oedd wedi uno'n wirfoddol fod ar droed yn 2018, ddwy flynedd cyn rhai eraill.
Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA), gallai uno awdurdodau lleol gostio hyd at £200m.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2014

- Cyhoeddwyd11 Medi 2014

- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2014
