Wrecsam yn erbyn uno
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr Wrecsam wedi pleidleisio yn erbyn uno'n wirfoddol gyda Chyngor Sir y Fflint.
Doedd yr un cynghorydd yn fodlon siarad o blaid y syniad tra oedd 36 yn erbyn ac 11 yn ymatal.
Dywedodd Mark Pritchard, arweinydd newydd y cyngor, ei fod am yrru "neges glir i Lywodraeth Cymru, bod Wrecsam ddim o blaid uno".
"Rhaid i ni yrru neges ein bod ni eisiau sefyll ar ein pennau ein hunain," ychwanegodd.
"Dyw hyn ddim yn wirfoddol, rydym yn cael ein bwlio gan Gaerdydd i uno.
"Alla i ddim credu bod y llywodraeth yn gwneud hyn, ..."