Protest Isis yn cau Pont Hafren

  • Cyhoeddwyd
pont hafrenFfynhonnell y llun, @SionIfanDavies
Disgrifiad o’r llun,

Llun @Sion Ifan Davies o'r bont

Mae digwyddiad ar yr ail bont Hafren wedi achosi tagfeydd traffig yn yr ardal.

Yn ôl Heddlu Gwent, roedd protestwyr, Cwrdidad o Irac, yn cynnal protest yno. Deellir fod y protestwyr yn gwrthdystio yn erbyn Isis a llywodraeth Twrci.

Cadarnhaodd Heddlu Gwent eu bod wedi ymateb i ddigwyddiad ar y bont.

Roedd tua 10 cerbyd yn rhan o'r brotest ac fe berswadiwyd y gwrthdystwyr i adael y safle, a symud i le mwy diogel i gynnal eu gwrthdystiad.

Deellir fod rhan o'r lôn tua'r gorllewin wedi cau am gyfnod yn ystod y digwyddiad.

protest pontFfynhonnell y llun, Holly Stott-Penna
Disgrifiad o’r llun,

Deellir fod y protestwyr wedi teithio o Gaerdydd a Chasnewydd