Cynghorwyr yn trafod pecyn diswyddo Bryn Parry-Jones
- Cyhoeddwyd

Mi fydd cynghorwyr Sir Benfro yn pleidleisio'n hwyrach ar becyn diswyddo ar gyfer prif weithredwr y cyngor, Bryn Parry-Jones.
Mae BBC Cymru yn deall bod pecyn diswyddo gwerth dros £300,000 wedi cael ei baratoi ar ei gyfer.
Daw hyn yn sgil ffrae ynghylch adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru fis Ionawr oedd yn dweud fod taliadau a dderbyniodd Mr Parry-Jones yn lle cyfraniadau pensiwn yn "anghyfreithlon".
Daeth dau ymchwiliad gan Heddlu Sir Gaerloyw i'r casgliad nad oedd tystiolaeth ei fod wedi troseddu.
Ond fe gafodd pwyllgor arbennig ei sefydlu er mwyn ystyried ei ymddygiad cyffredinol wedi i'r cyngor pasio pleidlais o ddiffyg hyder ynddo.
Mr Parry-Jones, gafodd ei benodi fel prif weithredwr yn 1995, sy'n golygu mai ef yw'r prif weithredwr sydd wedi bod yn ei swydd am yr amser hiraf allan o bob awdurdod lleol Cymreig.
Ef hefyd sy'n derbyn y cyflog uchaf am wneud swydd prif weithredwr, sef bron i £195,000 gyda buddiannau ychwanegol eraill.
Mae wedi bod dan bwysau i ymddiswyddo ers cyhoeddiad adroddiad y Swyddfa Archwilio ond mae wedi gwrthod y galwadau i gamu lawr hyd yn hyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2014

- Cyhoeddwyd19 Medi 2014

- Cyhoeddwyd19 Medi 2014

- Cyhoeddwyd12 Medi 2014

- Cyhoeddwyd9 Medi 2014

- Cyhoeddwyd15 Awst 2014

- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2014

- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2014

- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2014
