Teyrngedau i Howard Jones
- Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i'r cyn gynghorydd Howard Jones o Gwm Gwendraeth a fu farw yn 91 yr wythnos hon yn dilyn salwch byr.
Roedd Mr Jones yn wleidydd adnabyddus yn ei ardal leol wedi iddo dreulio amser fel cadeirydd Cyngor Dyfed a Chyngor Sir Gâr.
Yn gyn löwr a chwaraeodd ran flaenllaw yng ngwaith Undeb Genedlaethol y Glowyr (NUM), fe barhaodd Mr Jones i frwydro dros gymunedau glo'r de drwy gydol ei yrfa.
Roedd yn ddyn sicr ei farn ac fe wnaeth fygwth gadael y Blaid Lafur yn 1998 gan ddweud ei bod wedi methu â chadw at ei haddewidion.
'Uchel ei barch'
Mae Arweinydd Cyngor Sir Gâr wedi rhoi teyrnged iddo. Dywedodd Kevin Madge: "Roedd Howard Jones yn uchel ei barch dros hyd a lled Sir Gâr a gweddill Cymru.
"Fe roddodd ei fywyd i wasanaethu pobl drwy gyfrwng llywodraeth leol, yr NUM a'i gymuned ei hun.
"Mae gan bobl Sir Gâr ddyled fawr i Howard am y gwaith wnaeth e ar eu rhan.
"Roedd ganddo werthoedd a moesau cadarn, roedd ganddo amser i bawb ac yn barod gyda chyngor da a doeth i glust oedd yn fodlon gwrando.
"Fe gyflawnodd Howard gymaint yn ystod ei yrfa ac mae'n gadael gwaddol y gall ei deulu fod yn falch ohono.
"Rwy'n cydymdeimlo â nhw ar eu colled ac rydym i gyd yn meddwl amdanyn nhw yn ystod yr amser anodd hwn."
Mae Aelod Seneddol Llanelli Nia Griffith hefyd wedi canu clodydd Mr Jones gan ei ddisgrifio fel "cawr o ddyn oedd yn cadw at ei egwyddorion".
"Fe frwydrodd dros ei gymuned drwy gydol ei fywyd," ychwanegodd.