Dirwy i Gymru am gefnogwyr ar y cae yn Andorra
- Cyhoeddwyd

Daeth y cefnogwyr i'r cae ar ôl i Gareth Bale sgorio wedi 81 o funudau yn Andorra
Mae UEFA wedi rhoi dirwy o £3,960 (€5,000) i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ar ôl i gefnogwyr ddod ar y cae yn ystod gêm Cymru yn erbyn Andorra fis diwethaf.
Daeth rhai cefnogwyr ar y cae ar ôl i Gareth Bale ennill y gêm gyda gôl hwyr yn rownd ragbrofol Ewro 2016.
Cafodd Ffederasiwn Bêl-droed Andorra ddirwy o £7,920 (€10,000) am "drefn annigonol" yn Estadi Nacional.
2-1 oedd y sgôr yn erbyn Andorra, ac mae Cymru bellach ar frig y tabl yng Ngrŵp B yn dilyn gemau yn erbyn Bosnia-Herzegovina a Chyprus.
Mae gêm nesaf tîm Chris Coleman yn erbyn Gwlad Belg ar 16 Tachwedd.
Mae'r Gymdeithas Bêl-Droed wedi derbyn y ddirwy gan gorff llywodraethu Ewrop, ar ôl cael eu cyhuddo o dorri rheol 16.2 - cefnogwyr ar y cae.
Gallai Cymru fod wedi colli pwyntiau yn dilyn y digwyddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2014

- Cyhoeddwyd13 Hydref 2014

- Cyhoeddwyd10 Hydref 2014
