Enwau o'r het ar gyfer rownd gyntaf Cwpan FA

  • Cyhoeddwyd
FA Cup

Mae'r enwau wedi eu tynnu o'r het ar gyfer rownd gyntaf go iawn Cwpan FA Lloegr.

Bydd Casnewydd yn wynebu Luton, sy'n chwarae yn y gyngres, oddi cartref ddydd Sadwrn Tachwedd 8.

Woking, sydd hefyd o'r gyngres, fydd gwrthwynebwyr Wrecsam os all y Dreigiau guro Macclesfield pan fydd y ddau dîm yn ailchwarae nos Fawrth.

1-1 oedd y sgôr rhwng Wrecsam a Macclesfield yr wythnos ddiwethaf, ym mhedwaredd rownd gymhwyso'r gystadleuaeth.

Straeon perthnasol