Agor a gohirio cwest i farwolaeth bardd
- Cyhoeddwyd

Mae cwest i farwolaeth y bardd, Anne Jackson wedi ei agor a'i ohirio.
Fe gafodd Mrs Jackson - oedd hefyd yn athrawes ysgrifennu creadigol - ei chanfod wedi ei thrywanu yn ei bron a'i gwddf yn ei chartref ym Mrynbuga ddechrau'r mis.
Fe glywodd Llys Crwner Casnewydd fod yr heddlu wedi dod o hyd i'w chorff ar lawr y lolfa, cyn i barafeddygon gadarnhau ei bod wedi marw.
Mae Timothy Jackson, 48 oed o Sheffield, wedi ei gadw yn y ddalfa a'i gyhuddo o'i llofruddio.
Roedd Mrs Jackson yn ysgrifennu cerddi dan yr enw Anne Cluysenaar.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2014

- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2014
