Merch dair oed o Gaerfyrddin wedi marw oherwydd anadlu mwg
- Cyhoeddwyd

Roedd hi'n dair oed
Mae cwest wedi clywed bod merch dair oed fu farw wedi tân yn ei chartref wedi marw o ganlyniad i anadlu mwg.
Bu farw Angel Jade Keogh o Gaerfyrddin ar Fehefin 15, flwyddyn yn union wedi marwolaeth ei brawd Jake yn y crud.
Aed â hi i Ysbyty Glangwili a'i throsglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd lle bu farw.
Fe gofnododd Crwner Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, Mark Layton, reithfarn o farwolaeth ddamweiniol.
Roedd adolygiad cyn cwest i fod yr wythnos diwetha ond ar gais ei rhieni cafodd cwest llawn ei gynnal.
Roedd diffoddwyr wedi achub Angel a'i mam, Alice Smith, wrth i dân ledu'n gyflym drwy'r tŷ ym Mryn Gorwel.
Bu raid i'w thad neidio o ffenest.