Glanhau dros 550 o feddau rhyfel
- Cyhoeddwyd

Daeth cymorth gan Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad i ganfod y beddau yng Nghaernarfon a thu hwnt
Mae cyn filwyr wedi bod yn glanhau dros 550 o feddau rhyfel mewn 40 mynwent yng ngogledd Cymru yn ystod 2014 i nodi canrif ers dechrau'r Rhyfel Mawr.
Mae'r elusen Change Step o Fae Colwyn, sy'n gweithio gyda chyn filwyr, yn gobeithio ymestyn y cynllun i mewn i 2015.
Cafodd cynllun Cofio Ein harwyr ei sefydlu i godi ymwybyddiaeth am feddau rhyfel yng Nghymru.
Hyd yma mae'r gwirfoddolwyr wedi atgyweirio 552 allan o'r 700 o feddau yn y gogledd.
Mae cynllun Change Step yn cael ei arwain gan Cais, elusen sy'n cynorthwyo pobl sy'n gaeth i sylweddau neu sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Dyma leoliadau holl feddau rhyfel gogledd Cymru
Dywedodd eu llefarydd Kim Ferguson bod y cynllun beddau wedi bod yn llwyddiannus dros ben.
"Gobeithio y gallwn barhau gyda'r cynllun mewn rhyw fodd," meddai.
Roedd ambell fynwent fel St.Beuno yn Aberffraw ar Ynys Môn â thri bedd o'r Rhyfel Byd Cyntaf, ond roedd gan fynwent Wrecsam 154 o feddau milwyr fu farw yn y ddau Ryfel Byd.
Bu'r grŵp yn gweithio gyda Chomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad i ddod o hyd i feddau ar Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Fe gawson nhw gymorth wedyn gan eglwysi lleol i ganfod y beddau unigol er mwyn gwneud y gwaith o glirio chwyn ac adnewyddu'r meini.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2014

- Cyhoeddwyd31 Mai 2013
