Nod: 'Teithiau hir o Faes Awyr Caerdydd'
- Cyhoeddwyd

Yn Nhachwedd fe gafodd y maes awyr fenthyciad o £3.5m oddi wrth y llywodraeth
Mae pennaeth Maes Awyr Caerdydd wedi dweud taw un o'i amcanion yw denu teithiau hir a chynyddu nifer y teithwyr.
Prynodd Llywodraeth Cymru'r maes awyr bron dwy flynedd yn ôl wedi i nifer y teithwyr ostwng i ychydig dros filiwn.
Ers hynny mae nifer o welliannau wedi bod, gan gynnwys yr adeilad, cyfleusterau, technoleg a chysylltiadau trafnidiaeth.
Yn Nhachwedd fe gafodd y maes awyr fenthyciad o £3.5m oddi wrth y llywodraeth er mwyn datblygu mwy o deithiau a "rhoi mwy o ddewis i deithwyr".
Orlando
Dywedodd y pennaeth staff Jason Thomas taw'r nod fyddai gwella'r sefyllfa yn sgil y cyhoeddiad y byddai cwmni awyrennau Thomas Cook yn hedfan o Gaerdydd i Orlando yn Fflorida yn Awst.
"Yn sicr, rydym yn canolbwyntio ar deithiau hir," meddai.
"Mae ein cyfleusterau'n wych a'r llain glanio'n addas ar gyfer pob math o awyren.
"Dramor mae Cymru'n frand cryf ... mae angen mwy o deithiau hir i Gymru ac rydym mewn sefyllfa eitha cryf."
Dywedodd na allai ddwerud pa deithiau oedd yn cael eu hystyried ond y byddai cyhoeddiadau "yn y dyfodol agos".