Gwesty i'r deillion yn Llandudno yn cau ei ddrysau
- Cyhoeddwyd

Mae'r Belmont wedi bod yn cynnig gwasanaeth i'r deillion am 20 mlynedd
Bydd gwesty i'r deillion yn Llandudno yn cau ei ddrysau am y tro olaf ddydd Llun.
Y gred yw mai Gwesty'r Belmont yw'r unig un o'i fath yng Nghymru a Lloger ac yn ôl Cymdeithas y Deillion does dim modd iddynt barhau i dalu costau'r gwesty.
Yn ôl y Gymdeithas dim ond nifer fach o'r 27 o ystafelloedd sy'n cael eu defnyddio drwy'r flwyddyn oherwydd bod rheolau newydd yn golygu fod gwestai eraill nawr yn darparu ar gyfer pobl ag anableddau.
Mae'r gwesty wedi ei werthu i gwmni preifat a nawr bydd yn cael ei adnewyddu a'i ailagor fel gwesty.
Dywedodd Eileen Harding, prif weithredwr Cymdeithas y Deillion: "Fe wnaethom drio cadw'r gwesty mor hir ag oedd yn bosib, ond gan mai dim ond 10%o'r stafelloedd oedd yn cael eu gosod drwy'r flwyddyn, roedd hi'n amhosib ysgwyddo'r gost."
Ychwanegodd y bydd yr arian o werthu'r gwesty yn cael ei roi i gronfa sy'n cefnogi pobl ifanc a phant dall a'u teuluoedd.