Cymeradwydo £1.5m i gynllun traphont Ddŵr Pontcysyllte
- Cyhoeddwyd

Mae nifer yr ymwelwyr i'r safle wedi cynyddu ers iddo gael ei wobrwyo â statws safle Treftadaeth y Byd yn 2009
Mae cynghorwyr Wrecsam wedi cymeradwyo cynllun gwerth £1.5 miliwn i ddenu mwy o ymwelwyr i safle Traphont Ddŵr Pontcysyllte ger Wrecsam.
Cafodd y safle ei wobrwyo â statws safle Treftadaeth y Byd yn 2009.
Mae cynllun ar gyfer y tair i 10 mlynedd nesaf wedi cael ei ddylunio gan ymgynghorwyr a gomisiynwyd gan Gyngor Wrecsam a'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd.
Y bwriad yw codi caffi newydd a phlatfform golwg i ymwelwyr, yn ogystal â maes parcio estynedig.
Penderfynodd cynghorwyr i beidio â bwrw mlaen gydag argymhelliad i godi tal am barcio ac am ddefnyddio toiledau.
Dywed adroddiad gafodd ei baratoi ar gyfer y cyngor fod ymwelwyr ar hyn o bryd yn treulio llai nag awr yn yr ardal wrth ymweld â'r safle.
Ychwanegodd yr adroddiad: "Mae'r cynnydd mewn nifer yr ymwelwyr wedi rhoi pwyslais sylweddol ar gyfleusterau parcio a thoiledau yn ardal Trefor, ac felly hefyd yn cael effaith ar brofiad a mwynhad ymwelwyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2015
