Bygwth Chris Bryant AS ar Twitter
- Cyhoeddwyd

Derbyniodd Chris Bryant AS fygythiad wedi iddo wneud sylwadau am yr ymosodiadau terfysgol ym Mharis
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i fygythiad yn erbyn Aelod Seneddol Rhondda Chris Bryant ar wefan gymdeithasol.
Derbyniodd Mr Bryant nifer o negeseuon bygythiol ar wefan Twitter, gan gynnwys bygythiad i fomio ei swyddfa.
Daeth y bygythiad o gyfrif Twitter o'r enw @jesuischarlie1. Mae'r cyfrif hwnnw bellach wedi ei gau.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: ''Rydym wedi derbyn adroddiadau ac rydym yn ymchwilio.''
