Gweledigaeth Mudiad Meithrin dros y 10 mlynedd nesa'
- Cyhoeddwyd

Nod 'Dewiniaith' yw cynnig cefnogaeth ac arweiniaid i staff a gwirfoddolwyr y Mudiad Meithrin
Mae'r Mudiad Meithrin yn amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer y 10 mlynedd nesa', gyda'r nod o roi arweiniad i staff a gwirfoddolwyr sydd ynghlwm â'r mudiad.
Bydd y ddogfen 'Dewiniaith', sy'n cyfeirio at gymeriadau Dewin a Doti'r mudiad, yn cael ei lansio ar risiau'r Senedd ym Mae Caerdydd am 13:00 ddydd Mawrth.
Mae yna bwysau cyson ar gylchoedd meithrin i godi arian ac maen nhw'n ddibynnol iawn ar gefnogaeth gwirfoddolwyr.
Cynlluniau i ddatblygu
Ymhlith yr amcanion yn y ddogfen, bydd cynlluniau i:
Ehangu a datblygu gofal plant trwy'r cylchoedd meithrin ac ymlaen i addysg Gymraeg;
Lansio ' Academi', sef corff hyfforddi cenedlaethol, a datblygu cwmni 'Cam wrth Gam' ymhellach;
Cynnal seremoni wobrwyo i gydnabod llwyddiannau cylchoedd;
Lawnsio sianel Dewin a Doti ar YouTube;
Mabwysiadu cynllun 'Bodo' wrth gydweithio â chyrff fel Merched y Wawr, lle bydd gwirfoddolwr yn darllen stori a helpu i wireddu egwyddorion cyfoethogi iaith a throchi, a phontio'r cylch â'r gymuned.
Mae tua 550 o gylchoedd meithrin ar hyd a lled Cymru yn cynnig sesiynau gofal ac addysg yn ddyddiol i thua 12,000 o blant rhwng dwy a phump oed.
Yn ogystal, mae'r mudiad yn gofalu am dros 450 o gylchoedd Ti a Fi, sy'n rhoi cyfle i rieni a phlant sy'n iau nag oed ysgol i gymdeithasu a chwarae mewn awyrgylch anffurfiol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyfrannu at y drafodaeth

Mae Gwenllian Lansdown Davies yn Brif Weithredwr y Mudiad Meithrin ers Medi 2014
Meddai'r Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
"Pwrpas y ddogfen 'Dewiniaith' yw cynnig cyfeiriad i waith pob un sydd ynghlwm â Mudiad Meithrin a chynnig arweiniad i'n staff cyflogedig. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu gweledigaeth strategol ar gyfer y 10 mlynedd nesaf ac mae'n ffrwyth gwaith cynllunio strategol gan dîm o staff y Mudiad.
"Gan ystyried pwysigrwydd cenedlaethol Mudiad Meithrin, a'r ffaith ein bod yn perthyn i bawb yng Nghymru, gwahoddir ymatebion gan unrhyw un sy'n dymuno cyfrannu sylwadau ar y cynnwys erbyn 20 Chwefror, 2015."
Ychwanegodd Rhiannon Lloyd, Cadeirydd Mudiad Meithrin:
"Ymfalchïwn yn y ffaith mai dyma ddechrau taith ieithyddol i nifer o blant o deuluoedd ble na siaredir y Gymraeg. Fel mudiad, byddem yn hynod falch o gael clywed barn pobl Cymru am gynnwys 'Dewiniaith', ac anogwn bawb i wneud hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2014
