Dyn wedi marw wedi gwrthdrawiad ar yr M4 fore Sul
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar ar yr M4 ger Pen-y-bont ddydd Sul.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng cyffordd 36, Sarn a chyffordd 37, Y Pil am tua 01:00.
Dywedodd yr heddlu bod y dyn wedi ei daro gan Toyota Auris arian, a bu farw ar y safle.
Cafodd gyrrwr y car ei gludo i'r ysbyty, ac roedd yr M4 ar gau am saith awr wrth i'r heddlu ymchwilio.
Mae'r heddlu eisiau siarad gydag unrhyw un welodd y digwyddiad neu wrthdrawiad arall ddigwyddodd yn fuan cyn hynny rhwng Ford Fiesta arian a Renault Laguna llwyd.