Angen am fwy o swyddfeydd tu allan i Gaerdydd?
- Cyhoeddwyd

Mae ymgynghorydd ar wasanaethau ariannol wedi dweud efallai y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ymyrryd i sicrhau bod swyddfeydd ar gael tu allan i Gaerdydd.
Mae Chris Nott yn gyfrifol am ddenu cwmnïau a swyddi i Gymru, a hynny yn y sector ariannol, sy'n gweld y cynnydd mwyaf ers blynyddoedd llwyddiannus y 1990au.
Dywedodd wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC y dylai gweinidogion fonitro'r sefyllfa gan weithredu os yw'r sector preifat yn anfodlon adeiladu mwy o swyddfeydd tu allan i'r brifddinas.
Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru wedi cael eu beirniadu gan rai am brynu tir a chefnogi prosiectau adeiladu yng nghanol Caerdydd, ond dywedodd bod hyn wedi helpu i sicrhau bod datblygiadau newydd yn digwydd.
'Ar eu colled'
Daw'r sylwadau wedi i arweinwyr busnes godi pryderon y gallai ardaloedd tu allan i Gaerdydd fod ar eu colled yng nghyd-destun swyddi yn y sector ariannol oherwydd nad yw cwmnïau'n gallu cael hyd i leoliadau addas yng ngweddill Cymru.
Mae Denise Lovering, Cadeirydd Fforwm Busnes Caerffili, yn dweud bod ei hardal wedi bod ar ei cholled o ran buddsoddiad oherwydd diffyg lleoliadau addas.
Dywedodd Llywodraeth Cymru "eu bod yn ystyried nifer o weithredoedd posib i symbylu'r farchnad, gan gynnwys cefnogaeth ar gyfer datblygu swyddfeydd."
Mae Sunday Politics Wales yn cael ei ddarlledu ar BBC One Wales am 11.00, dydd Sul, 15 Chwefror.