Gair am air

  • Cyhoeddwyd
Malws melys

Mae na nifer o eiriau anarferol yn yr iaith Gymraeg. Ydych chi'n gwybod beth yw ystyr rhai ohonyn nhw? Rhowch gynnig ar gwis Cymru Fyw:

1. Malws Melys

a) Eli i leddfu croen sych

b) Losin wedi eu creu o gelatin a siwgr

c) Term cariadus i ddisgrifio anwyliaid

d) Ceirios anghyffredin o wlad Groeg

2. Brenhinllys

a) Person sy'n meddwl tipyn o'i hun

b) Perlysieuyn sy'n mynd yn dda gyda thomato

c) Cyflwr go anghyfforddus

d) Ystafell foethus

Sied

3. Crimog

a) Gair i ddisgrifio pwdin sy'n llawn hufen

b) Sied yng ngwaelod yr ardd

c) Blanced gnu

d) Yr asgwrn rhwng y benglin a'r ffêr

4. Dulog

a) Coed tân

b) Dwylo blewog

c) Math o gaws Cymreig

d) Anifail â chragen galed o Dde America

Caws

5. Bronglwm

a) Math o gwlwm morwr

b) Pwl drwg o asthma

c) Dod yn bedwerydd mewn cystadleuaeth

d) Rhan annatod o ddillad isa' merched

6. Camel-Lewpart

a) Canlyniad arbrawf mewn labordy yn Rwsia

b) Patrwm enwog o dŷ ffasiwn Chanel

c) Term i sarhau

d) Anifail hardd â gwddf hir o Affrica

Dwylo

7. Ystifflog

a) Anifail tanfor sy'n debyg i octopws

b) Math arbennig o fwsog

c) Cacen ffrwythau

d) Darn o bren garw

8. Muchudd

a) Gair i ddisgrifio'r dwylo wedi diwrnod caled o waith

b) Gem ddu

c) Mwclis trwm

d) Baw adar

Hawfinch

9. Gylfinbraff

a) Defnydd moethus tebyg i sidan

b) Sebon drud o Oes Fictoria

c) Aderyn bychan sydd i'w weld yn ne Cymru a Lloegr yn ystod yr haf

d) Gwin melys

10. Ffacbys

a) Pys ag agwedd annifyr

b) Bodyn lleiaf y droed

c) Enw hynafol ar fys y fodrwy briodas

d) Pyls bwytadwy sy'n perthyn i ffa

.Ffynhonnell y llun, .

Atebion:

1. Malws Melys - Losin wedi eu creu o gelatin a siwgr - Marshmallow

2. Brenhinllys - Perlysieuyn sy'n mynd yn dda gyda thomato - Basil

3. Crimog - Yr asgwrn rhwng y benglin a'r ffer - Shin

4. Dulog - Anifail â chragen galed o Dde America - Armadillo

5. Bronglwm - Rhan annatod o ddillad isa' merched - Bra

6. Camel-Lewpart - Anifail hardd â gwddf hir o Affrica - Jiraff

7. Ystifflog - Anifail tanfor sy'n debyg i octopws - Squid

8. Muchudd - Gem ddu - Jet (gemstone)

9. Gylfinbraff - Aderyn bychan sydd i'w weld yn ne Cymru a Lloegr yn ystod yr haf - Hawfinch

10. Ffacbys - Pyls bwytadwy sy'n perthyn i ffa - Lentils