Macclesfield 2-2 Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Macclesfield 2-2 Wrecsam
Fe sgoriodd yr eilydd, Rob Evans gôl hwyr i sicrhau pwynt i Wrecsam yn Macclesfield.
Cyfartal oedd hi ar yr hanner, hefyd. Gôl yr un i Danny Whitaker a Connor Jennings.
Fe sgoriodd Lee Bell i'r tîm cartref, ac fe roedd hi'n edrych yn ddiogel i Macclesfield.
Ond fe beniodd Evans groesiad Sam Finley i'r rhwyd.