Procio'r pleidiau: Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Ar 7 Mai bydd pobl y DU yn bwrw eu pleidlais yn yr etholiad cyffredinol. Fel rhan o gyfres, mae Cymru Fyw yn holi bob un o'r prif bleidiau - a thro Plaid Cymru ydy'r tro hwn.
Beth yw prif addewid eich plaid yn yr etholiad?
I fod yn llais cryf i holl gymunedau Cymru yn San Steffan. Ein prif amcanion yw rhoi terfyn ar agenda llymder pleidiau San Steffan a sicrhau cydraddoldeb i Gymru gyda'r Alban yn nhermau pwerau ac adnoddau, fyddai'n dod a £1.2 biliwn ychwanegol y flwyddyn i Gymru.
Pa bolisi, yn eich tyb chi, fydd yn fwya' manteisiol i bobl Cymru?
Yn hanesyddol mae Cymru wedi cael ei thrin yn anghyfartal o fewn y DU. Byddai dod a llymder i ben, a sicrhau fod Cymru yn cael ei chyllido yn gyfartal, yn sicrhau gwerth £400 ychwanegol ar gyfer pob person i wario ar wasanaethau hanfodol fel iechyd ac ysgolion ac ar dyfu'r economi.
Beth yw eich targed o ran seddi yng Nghymru?
Mae Plaid Cymru yn brwydro i sicrhau ein canlyniad gorau erioed mewn etholiad San Steffan. Mae gennym ymgeiswyr gwych ac actifyddion brwd sy'n gweithio'n ddiflino ledled Cymru i gyflawni hyn.
Pa bolisïau sydd gennych chi i ddenu pobl ifanc i bleidleisio?
Nid yw'r llywodraethau presennol Prydeinig na Chymreig yn cynnig llawer o obaith i bobl ifanc. Mae tua 20% o bobl ifanc yng Nghymru yn ddiwaith a nifer fawr ohonynt yn ddiwaith dros y tymor hir. Dyna pam ein bod ni eisiau canolbwyntio ar hyfforddi sgiliau er mwyn sicrhau fod pobl ifanc yn gallu cael y sgiliau angenrheidiol ar gyfer y byd gwaith.
Byddai ein Cynllun Gwarant Gwaith i bobl ifanc yn sicrhau fod pob unigolyn dan 25 oed naill ai mewn addysg, hyfforddiant neu waith.
Mae Plaid Cymru yn credu y dylai addysg israddedig fod yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr o Gymru, ac rydym yn parhau i weithio tuag at y nod hwn.
Yn ogystal â hyn mae Plaid Cymru eisiau gostwng yr oed pleidleisio i 16 er mwyn rhoi llais i bobl ifanc dros y materion sydd yn effeithio ar eu bywydau nhw.
Oes 'na wahaniaeth yn eich ymgyrchu'r tro hwn, yn enwedig o ystyried datblygiadau technoleg/gwefannau cymdeithasol?
Mae'n wir fod y cyfryngau cymdeithasol wedi trawsnewid sgwrs wleidyddol y DU mewn blynyddoedd diweddar. Mae'r modd y mae pobl yn darllen newyddion a derbyn gwybodaeth wedi newid ac mae Plaid Cymru wedi ymdrechu i addasu i hynny.
Mae'n bwysig ein bod ni fel plaid wleidyddol yn cysylltu â phobl ym mhob ffordd bosibl, ac mae hyn yn golygu lledaenu ein negeseuon trwy'r cyfryngau cymdeithasol, y cyfryngau traddodiadol, ac wrth gwrs ar garreg y drws.
'Tasech chi'n gorfod dewis cymeriad chwedlonol/teledu/ffilm i gynrychioli'r blaid, pwy fyddech chi'n dewis a pham?
Fe ddywedodd Leanne Wood yn ei haraith i'n Gynhadledd Wanwyn y dylai Cymru ymddwyn ychydig yn llai 'ufudd' a mynnu chwarae teg i'n cymunedau ni. Felly beth am Twm Siôn Cati?!