Sgerbwd 5,500 oed yn dychwelyd adref i Landudno
- Cyhoeddwyd

Mae profion wedi awgrymu bod Blodwen rhwng 54 a 63 oed pan fu farw
Mae sgerbwd dynes Neolithig yn cael ei ddadorchuddio yn swyddogol ddydd Iau er mwyn nodi'r ffaith ei bod yn dychwelyd i Sir Conwy - lle bu'r ddynes farw rhyw 5,500 o flynyddoedd yn ôl.
Cafodd 'Blodwen' ei darganfod ar Y Gogarth yn Llandudno yn 1891 ac mae hi wedi bod yn cael ei chadw yn Sir Gaerhirfryn ger cartref y perchennog chwarel wnaeth ei darganfod.
Mae'n dilyn llwyddiant ymgyrch hir i'w dychwelyd i ogledd Cymru, gydag arian wedi ei godi a safle wedi ei sicrhau er mwyn ei harddangos.
Fe fydd Amgueddfa Llandudno yn cynnal arddangosfa arbennig o ddydd Iau ymlaen.
Mae profion wedi awgrymu bod Blodwen, fu farw ar ôl disgyn ar greigiau'r Gogarth, rhwng 54 a 63 oed.