Digwyddiadau i nodi 70 mlynedd ers diwedd y rhyfel
- Cyhoeddwyd

Mae baner Jac yr Undeb yn hedfan yn Neuadd y Sir, Rhuthun, i nodi 70 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd
Mae cyfres o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ar draws Cymru'r penwythnos hwn i nodi 70 mlynedd ers diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop.
Cafodd clychau eu canu yng Nghaerdydd, Aberhonddu a Sir Benfro am 11:00 ddydd Sadwrn yn ystod ail ddiwrnod o ddathliadau.
Ddydd Gwener roedd dau funud o dawelwch wedi'i gynnal ar draws y wlad, a choelcerthi wedi'u cynnau, i nodi'r union amser y daeth yr Ail Ryfel Byd i ben.
Ar 8 Mai 1845 cafodd cannoedd o goelcerthi eu tanio i ddathlu diwedd y rhyfel.
Ymhlith y digwyddiadau'r penwythnos hwn mae arddangosfeydd arbennig a nifer o bartïon a dathliadau gyda themâu'r 1940au.

Fflam ar Gastell Caerdydd nos Wener

Cafodd fflam ei chynnau ger Cadeirlan Aberhonddu nos Wener hefyd

Dydd Sadwrn
Canu clychau am 11:00 yng Nghadeirlan Llandaf, Eglwys Sant Ioan yng Nghaerdydd, Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi, a Chadeirlan Aberhonddu
Mae Clwb Gweithwyr Abertyswg yn cynnal noson o ddathlu yng Nghlwb y Lleng Brydeinig o 19:00
Porth Tywyn - arddangosfa diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn cael ei chynnal yn y Neuadd Goffa
Dydd Sul
Castell Caerdydd - picnic teuluol gyda thema 1940au ac arddangosfeydd milwrol (12:00 tan 16:00)
Cyffordd Llandudno - gwasanaeth arbennig yn Eglwys St Michael o 10:30
Blaenafon - parti ar thema'r 1940au gyda digwyddiadau i'r teulu (prynhawn)
Yr Wyddgrug - digwyddiad cymunedol ar thema'r 1940au ar Sgwâr Daniel Owen

Digwyddiad yn Aberhonddu i nodi diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop

Digwyddiad cofio yn Aberhonddu
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2015
