Camlabelu cig: Dedfrydu dau o Aberystwyth
- Cyhoeddwyd

Dafydd Raw-Rees, cyn berchennog ffatri Farmbox Meats
Yn Llys y Goron Southwark yn Llundain mae Dafydd Raw-Rees wedi pledio'n euog i ddau gyhuddiad o dorri rheolau olrhain bwyd a chamlabelu.
Cafodd ryddhad amodol am gyfnod o ddwy flynedd.
Plediodd Colin Patterson yn euog i dorri rheolau olrhain bwyd ac yn euog i 17 o gyhuddiadau o gamlabelu cig gafr fel cig oen neu gig dafad.
Cafodd ddedfryd o 12 wythnos o garchar wedi ei gohirio am ddwy flynedd.
Raw-Rees oedd cyn berchennog ffatri Farmbox Meats yn Llandre ger Aberystwyth cyn iddi fynd i ddwylo'r derbynwyr.
Patterson oedd un o gynrychiolwyr Farmbox Meats.
Roedd y cyhuddiadau wedi ymchwiliad Yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Heddlu Dyfed Powys a Chyngor Ceredigion.
Roedd cyrch yr asiantaeth ar y ffatri yn 2013 ac aeth y cwmni i ddwylo'r derbynwyr yr un flwyddyn.