Carcharu cyn-ŵr dynes o Landudno am flacmel
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth y dyn hawlio arian gan fygwth dweud wrth rheini'r ddynes am eu perthynas
Mae cyn-ŵr dynes o Landudno wedi cael ei garcharu am dair blynedd ar ôl pledio'n euog i flacmel.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug bod y cwpl - y dyn o dras Hindŵ, a'i wraig o dras Mwslemaidd - wedi cynnal perthynas a phriodi heb i rieni'r ddynes wybod.
Fe ddaeth eu perthynas i'r amlwg ar ôl iddi ddod yn feichiog.
Roedd rhieni'r ddynes yn gwrthwynebu'r berthynas ar sail grefyddol.
Roedd y ddau yn byw ar wahân pan gafodd y babi ei eni, ac fe wnaeth y cwpl ysgaru ar ôl 20 mis. Ond fe ddechreuodd y ddau weld ei gilydd unwaith eto - a hynny yn y dirgel.
Hawlio £50,000
Clywodd y llys bod y ddynes wedi rhoi arian i'r dyn yn wirfoddol yn ystod eu priodas - hyd at £80,000.
Ond ar ôl iddynt ailddechrau'r berthynas, roedd wedi hawlio arian gan fygwth dweud wrth rheini'r ddynes am eu perthynas.
Roedd y ddynes wedi rhoi £15,000 iddo, ac yna fe wnaeth y dyn, na ellir ei enwi, hawlio £50,000 yn ychwanegol.
Dywedodd y byddai hynny'n ddigon i sicrhau na fyddai hi yn ei weld byth eto.
Anfonodd neges yn ei bygwth a'i galw yn ast, dywedodd ei bod yn ei chasáu ac yn gobeithio y byddai'n marw, ac fe ddywedodd y bod yn rhaid iddi dalu'r arian o fewn 48 awr.
Ni chafodd yr arian ei dalu ac fe gafodd yr heddlu eu galw.
Dywedodd y barnwr Wyn Lloyd Jones bod y ddynes yn amlwg wedi gwirioni ar ei chyn-ŵr, a bod o wedi cymryd mantais o hyn.
Yn ogystal â charcharu'r dyn am dair blynedd fe gyhoeddwyd gorchymyn 17 mlynedd yn gwahardd y dyn rhag cysylltu â'r ddynes.