Gwarchod hen gapel Cymraeg Dulyn
- Cyhoeddwyd
Capel Dulyn
Gosod plac i gofnodi hanes yr unig gapel Cymraeg yn Iwerddon yw'r cam nesaf i Gymry Dulyn sy'n dathlu bod gan yr adeilad statws arbennig.
Mae Draig Werdd - y Gymdeithas Gymreig yn Iwerddon - wedi ymgyrchu ers tro i sicrhau dyfodol hen Gapel Bethel, yr adeilad hynaf yng nghanol prysurdeb Stryd Talbot.
Ar ôl gwrthod yn y gorffennol mae Cyngor Dinas Dulyn wedi cymeradwyo'r cais.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion9 dywedodd y gymdeithas fod yr adeilad yn "hynod bwysig".
'Etifeddiaeth Cymru'
Dywedodd Trysorydd Draig Werdd, Angharad Williams: "Mae'r Cymry efo hanes hir o ddod drosodd i Iwerddon, a dyma'r unig gysylltiad sydd gynnon ni ar ôl o'r amser yna."
Ychwanegodd fod y statws newydd yn golygu "y bydd yr adeilad yma yn ei ffurf bresennol am amser hir i ddod".
Cafodd yr ymgyrch gefnogaeth gwleidyddion ac arweinwyr crefyddol yng Nghymru ac Iwerddon.
Yn ôl Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones: "Mae'r capel yn rhan o etifeddiaeth Cymru, ac yn rhan o etifeddiaeth y Cymry yn Nulyn."

Mae caffi rhyngrwyd a neuadd snwcer yno erbyn hyn
Cafodd Capel Bethel - neu'r "Capel Bach" fel mae'n cael ei adnabod - ei sefydlu yn 1838.
Yn addoldy i longwyr yn bennaf, roedd yn hafan o Gymreictod yng nghanol Dulyn am ganrif gyfan.
Gyda'r capel dan ofal Methodistiaid Calfinaidd Ynys Môn, aeth saith o weinidogion yno i wasanaethu. Ond yn 1939, gyda dechrau'r Ail Ryfel Byd, bu'n rhaid cau'r drysau.
Cafodd yr adeilad ei werthu yn 1944 a bu farw'r aelod olaf, Netta Jones, ym mis Ionawr eleni yng Nghaergybi.
Y tu ôl i'r graffiti caffi rhyngrwyd a neuadd snwcer sydd yno erbyn hyn. Roedd yn gartref i siop esgidiau Griffiths cyn hynny.
Plac
Mae Draig Werdd yn gobeithio y bydd plac yn cael ei osod yn 77 Stryd Talbot i nodi'r cysylltiad Cymreig, a phwrpas gwreiddiol yr adeilad.
Bydd canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg 1916 yn gyfle i dynnu sylw at gysylltiad Capel Bethel ag un o ddigwyddiadau hanesyddol mwyaf Iwerddon.
Mae'n debyg i'r festri gael ei defnyddio fel storfa arfau.
Yn ôl pob sôn, cafodd y gweinidog ar y pryd, y Parchedig John Lewis, ddihangfa lwcus. Roedd bron iddo gael ei saethu wrth i fwled adael twll yn ei het.