Ymosodiad 'erchyll' yn lladd defaid yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd

Dywedodd yr heddlu eu bod yn credu i rai wyn foddi yn ceisio dianc gan y ci
Mae ymosodiad gan gi laddodd defaid yn Sir Ddinbych wedi ei disgrifio fel un "erchyll" gan yr heddlu.
Cafodd tri o ddefaid a 21 o wyn eu lladd ger Llanelwy, a'r gred yw bod 12 o wyn eraill wedi boddi wrth geisio dianc, yn ol swyddog bywyd gwyllt Heddlu Gogledd Cymru, y Sarjant Rob Taylor.
Daw'r ymosodiad wedi marwolaeth defaid mewn digwyddiad tebyg yr wythnos diwethaf.
Dywedodd Sarjant Taylor mai anifail anwes o gartrefi gerllaw all fod yn dianc o'i gartref ac yn ymosod ar y defaid.
Dywedodd ei fod yn "drosedd erchyll", gan bod cwn yn gallu gadael golygfa "arswydus" ar ol ymosodiadau o'r fath.