Tân Pen-y-Bont: Diffoddwyr ar y safle
- Cyhoeddwyd

Mae diffoddwyr tân yn parhau ar safle canolfan ailgylchu Brynmenyn ym Mhen-y-bont lle'r oedd tân difrifol ddydd Gwener.
Am gyfnod, tra roedd y tân yn llosgi ar ei waethaf, bu 65 o ddiffoddwyr yn ceisio brwydro'r fflamau, ond mae'r tân bellach dan reolaeth, er bod tair injan dân yn parhau ar y safle ac yn chwistrellu dŵr ar y safle.
Roedd dros 1,000 o silindrau nwy ar y safle ac roedd rhaid i weithwyr adael adeiladau cyfagos ar y stad ddiwydianol.
Mae Heol Millers yn parhau ar gau ac mae nifer o ffyrdd eraill wedi cael eu heffeithio yn lleol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2015
