Criwiau yn ymladd tân mewn canolfan ailgylchu
- Cyhoeddwyd
Mae criwiau tân wedi treulio'r noson yn mynd i'r afael a thân mewn canolfan ailgylchu yn sir Ddinbych.
Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i dân ar ystâd ddiwydiannol Spencer yn Ninbych tua 21:00 nos Fercher.
Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod wedi darganfod 75 o dwmpathau o ddeunydd ailgylchu ar dân ar ôl cyrraedd.
Bydd ymchwiliad i achos y tân yn cael ei gynnal yn ddiweddarach ar ddydd Iau.