Britain's Got Talent: Ofcom yn ymchwilio
- Cyhoeddwyd

Daeth Côr Glanaethwy yn drydydd yn y rownd derfynol
Mae'r corff rheoleiddio darlledu Ofcom wedi cadarnhau eu bod wedi dechrau ymchwiliad i ganfod os oedd rhaglen Britain's Got Talent wedi "camarwain" gwylwyr pan gafodd tri chi eu defnyddio yn y rownd derfynol.
Cafodd Ofcom 1,150 o gwynion am enillwyr y gystadleuaeth, Jules O'Dwyer a Matisse, pan ddaeth i'r amlwg bod ci arall wedi perfformio un o'r triciau yn y rownd derfynol heb yn wybod i'r gynulleidfa.
Daeth yr enillwyr i'r brig mewn pleidlais gyhoeddus gan guro Côr Glanaethwy a'r consuriwr Jamie Raven yn y rownd derfynol.
Dywedodd llefarydd ar ran Ofcom: "Rydym wedi agor ymchwiliad i benderfynu os cafodd gwylwyr rownd derfynol Britain's Got Talent gan ITV, allai fod wedi talu i bleidleisio, gael eu camarwain am y gystadleuaeth."
Mae cynhyrchwyr y rhaglen eisoes wedi ymddiheuro gan ddweud y dylen nhw fod wedi dweud yn glir bod ci arall wedi cael ei ddefnyddio, a dywedodd Simon Cowell nad oedd "unrhyw un wedi ceisio twyllo" gan feio dryswch rhaglen fyw am y digwyddiad.
Fe wnaeth dros 13 miliwn wylio'r rownd derfynol.
Bydd ymchwiliad Ofcom yn canolbwyntio ar un rheol sy'n dweud: "Rhaid i ddarlledwyr sicrhau nad yw gwylwyr a gwrandawyr yn cael eu camarwain am unrhyw gystadleuaeth na phleidlais sy'n cael ei darlledu."

Chase oedd enw'r ail gi yn y rownd derfynol
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2015

- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2015
