Gwahardd chwaraewr rygbi'r gynghrair
- Cyhoeddwyd

Mae'r pumed chwaraewr rygbi o Gymru wedi ei wahardd o'r gamp ar ôl methu profion am gyffuriau steroids anabolaidd.
Mae Ross Bevan, sy'n chwarae i dîm rygbi'r gynghrair, Scorpions De Cymru, wedi ei wahardd am gyfnod o ddwy flynedd ar ôl profi'n bositif am y cyffur Drostanolone - sydd wedi'i wahardd ym myd y campau am eu bod yn gwella perfformiad.
Ross Bevan yw'r pumed chwaraewr rygbi o Gymru sydd wedi ei wahardd gan UKAD ar hyn o bryd am droseddau cyffuriau ar hyn o bryd. Y pedwar arall yw:
Peter Davies - clwb Cyn Ddisgyblion Ysgol Uwchradd Casnewydd - dwy flynedd;
Christopher Edwards - clwb Tredegar - tair blynedd;
Dean Colclough - gynt o glwb Abertawe - wyth mlynedd am ei fod wedi ei gael yn euog o gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon mewn chwaraeon hefyd.
Nick Clancy - Clwb Bôn-y-maen, dwy flynedd.