Pallial: Rheithgor yn dechrau ystyried
- Cyhoeddwyd

Mae'r saith dyn yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn eu herbyn
Mae'r rheithgor yn yr achos yn erbyn saith o ddynion sy'n wynebu cyhuddiadau o gam-drin plant yng ngogledd Cymru wedi ei anfon adref am y penwythnos, ar ôl dechrau ystyried ei reithfarn ddydd Gwener.
Mae'r saith diffynnydd yn wynebu cyfanswm o 45 o gyhuddiadau hanesyddol.
Cafodd y saith eu cyhuddo yn dilyn ymchwiliad gan yr Asiantaeth Droseddu Genedlaethol (NCA) fel rhan o Ymgyrch Pallial.
Dechreuodd yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 21 Ebrill eleni.
Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud a cham-drin honedig o bump o fechgyn yn ardal Wrecsam yn y 1970au a'r 1980au.
Gorffennodd y Barnwr Rhys Rowlands ei grynodeb o'r achos ac fe aeth y rheithgor allan ychydig wedi 11:30 fore Gwener.
Mae'r saith dyn yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn eu herbyn.
Y saith yw:
Mark Grainger (arferai gael ei adnabod fel Gary Cooke), 64 oed o Gaerlŷr - 17 cyhuddiad;
David Lightfoot, 72 oed o Ellesmere Port - 8 cyhuddiad;
Keith Stokes, 62 oed o Farndon ger Caer - 7 cyhuddiad;
Roy Norry, 55 oed o Gei Connah - 8 cyhuddiad;
Neil Phoenix, 63 oed o Wrecsam - 1 cyhuddiad;
Edward Julian Huxley, 70 oed o Maidenhead - 2 gyhuddiad;
Roger Griffiths, 76 oed o Wrecsam - 2 gyhuddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2015
