Galw am ddiogelu cytundeb teledu'r Chwe Gwlad
Mae Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, Ken Skates wedi galw ar Lywodraeth Prydain i ddiogelu cytundeb teledu Pencampwriaeth Rygbi'r Chwe Gwlad.
Mae'r cytundeb presennol gyda'r BBC yn para tan 2017 ac mae rhai yn darogan y gallai cwmnïau fel Sky neu BT Sport ennill y cytundeb nesaf. Mae pryder hefyd ynglŷn ag effaith posib hynny ar ddarlledu'r gemau yn y Gymraeg.
Adroddiad Huw Thomas.